Cyfarfodydd

NDM7659 - Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 16)

Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21

NDM7659 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol – Cynghorau) Diwygiedig a’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) Diwygiedig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7659 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol – Cynghorau) Diwygiedig a’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) Diwygiedig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

5

8

49

Derbyniwyd y cynnig.