Cyfarfodydd

SL(5)789 - Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

NDM7665 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7665 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

2

0

49

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 22/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)789 – Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

CLA(5)-10-21 – Papur 26 – Adroddiad

CLA(5)-10-21 – Papur 27 – Rheoliadau

CLA(5)-10-21 – Papur 28 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.