Cyfarfodydd

SL(5)792 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

NDM7660 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7660 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

11

1

49

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 22/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)792 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

CLA(5)-10-21 – Papur 43 – Adroddiad

CLA(5)-10-21 – Papur 44 – Rheoliadau

CLA(5)-10-21 – Papur 45 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-10-21 – Papur 46 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 12 Mawrth 2021

CLA(5)-10-21 – Papur 47 – Datganiad ysgrifenedig, 12 Mawrth 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyflwyno adroddiad erbyn dydd Llun 22 Mawrth.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i fod i gael eu gwneud a'u gosod heddiw, a'u trafod ar 23 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor felly y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rhain hefyd erbyn dydd Llun 22 Mawrth.