Cyfarfodydd

P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y Gweinidog ar y pryd wedi datgan yn glir mai mater i'r ysgol a'r awdurdod lleol yw penderfyniadau ynghylch gwersi byw neu wersi wedi’u recordio. O ganlyniad, nid oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater ac awgrymu eu bod yn cysylltu â'u hysgol neu awdurdod lleol yn uniongyrchol os oeddent yn dymuno bwrw ymlaen â'r mater.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu gohebiaeth bellach y deisebydd i'r Gweinidog Addysg a, gyda chytundeb y deisebydd, manylion ysgolion nad ydynt yn darparu unrhyw wersi byw neu rai wedi'u recordio, a gofyn i'r Gweinidog ystyried pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer codi'r mater hwn ymhellach gyda'r ysgol neu'r awdurdod addysg lleol dan sylw.