Cyfarfodydd

P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd

 

Nododd y Pwyllgor fod y ddeiseb yn ymdrin â mater pwysig ond roedd plant wedi dychwelyd i'r ysgol ers Ebrill 2021. Gan hynny, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn gofyn iddo nodi’r materion a godwyd yn y ddeiseb fel rhan o’r adolygiad a oedd yn cael ei  gynnal ar hyn o bryd i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim.  Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ystyried a ellir diweddaru'r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol i nodi'n glir y dylent weithredu nifer o systemau ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn gyfochrog, gan gynnwys taliadau arian parod neu dalebau.