Cyfarfodydd

P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o'r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o'r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni'r ffaith mai awdurdodau lleol unigol a chynghorwyr sy’n gyfrifol am osod y dreth gyngor, a bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynigion a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer yn rhagor y gall ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.