Cyfarfodydd

P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd

 

Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd

 

Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Deisebau blaenorol wedi cytuno i aros i gael sylwadau’r deisebydd ar ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, gan nad oedd y deisebydd wedi ymateb, roedd y Pwyllgor yn teimlo nad oedd unrhyw gamau clir y gallai eu cymryd a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn penderfynu a ellid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.