Cyfarfodydd

P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd, gan nodi y byddai'n debygol y bydd rhai amgylchiadau bob amser yn bodoli lle byddai angen i lesddeiliaid fod ar waith. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog, gan gynnwys y ffaith ei bod yn aros i ymchwil gael ei chyhoeddi i brofiad lesddaliad yng Nghymru cyn gwneud penderfyniadau pellach. O ystyried hyn, ac etholiad y Senedd sydd ar fin cael ei gynnal, cytunodd y Pwyllgor i drosglwyddo'r ddeiseb i'r pwyllgor olynol sy’n ei olynu ei thrafod ymhellach yn y Chweched Senedd.