Cyfarfodydd

P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ddadl Llawn ar y cyd ynghylch y ddeiseb hon a P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19.