Cyfarfodydd

P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ddatganiad Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru y dylid gosod croesfan ac ystyried ymgymryd â rhagor o waith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Nododd y Pwyllgor hefyd y datganiad y bydd angen i'r awdurdod lleol arwain ymgynghoriad cymunedol ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd wrth weithredu terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol, a daeth i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb i’r Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.