Cyfarfodydd

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O ystyried y gwaith manwl a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gellid ei gyflawni drwy'r Pwyllgor Deisebau. Roedd yr Aelodau’n awyddus i longyfarch y deisebydd am yr ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried. Bydd y Pwyllgor yn rhannu adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac ymateb Llywodraeth Cymru â’r deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach ynghylch yr amserlen ar gyfer sefydlu Comisiwn i fwrw ymlaen â’r rhan fwyaf o’r argymhellion.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Asedau Cymunedol, ac i dynnu sylw at y ddeiseb yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y disgwylir iddi gael ei chynnal yn gynnar yn 2023.

 

 

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gorffen y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ar y mater, a thrafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn am esboniad manylach o’r cyllid sydd ar gael i gymunedau ac a fydd unrhyw ganllawiau neu gymorth ar gael i’r rhai sydd am redeg a chynnal a chadw adeiladau cymunedol.

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor wrth aros am y diweddariad nesaf gan y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfodydd a gynhaliwyd hyd yma, gan ofyn iddi hefyd sut mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymchwil ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, a bod y deisebydd wedi cael copi o’r ymchwil hwn.  Cytunodd yr aelodau i ofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i'r Ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ac a oedd yn derbyn yr argymhellion ac, os felly, sut a phryd y byddai’n eu rhoi ar waith.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nodwyd yr ohebiaeth a ddaeth i law. O gofio nad oes fawr o amser yn weddill yn y Senedd bresennol, nid oes disgwyl i ymchwil Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi tan y gwanwyn a chan fod y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd camau penodol, cytunodd y Pwyllgor i drosglwyddo’r ddeiseb i’r Chweched Senedd ei hystyried.