Cyfarfodydd
NDM7530 Debate: The End of the Transition Period
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE
NDM7530 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cytundeb
mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn
y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
2. Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas
â'r Dyfodol).
3. Yn edifar nad yw
mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y
cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all
effeithio ar y setliad datganoli.
4. Yn edifar nad yw'r
cytundeb niweidiol hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn
'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol:
Blaenoriaethau i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai
niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
5. Yn cefnogi’r ymdrechion
parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r
niwed hirdymor a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r
UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl
hwnnw.
Y berthynas
rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
Dogfennau Ategol
Bil yr Undeb Ewropeaidd
(Perthynas â’r Dyfodol) (Saesneg yn unig)
Detholwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn croesawu'r
cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu ei bod er
budd Cymru i roi cefnogaeth i'r cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar
gyfer ei weithredu drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol).
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar
gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw'r
cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn
refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn
symud y Deyrnas Unedig o fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb
Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac
yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth
wadu'r broses ddemocrataidd.
[Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu
‘ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach' a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn
cynrychioli Brexit caled nad oes mandad ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'.
Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn peidio cefnogi
bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y
DU i bleidleisio yn unol â hynny.
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddetholwyd y gwelliannau eraill a osodwyd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 10.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7530 Rebecca
Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y
DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb
drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol).
3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad
deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i
fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.
4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn
adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a
hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru'
ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu
cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn
deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.
Y berthynas rhwng y
DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd 6 o’r 10 gwelliant a gyflwynwyd
i’r cynnig.
Detholwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng
Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu ei bod er budd Cymru i roi cefnogaeth i'r
cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer ei weithredu drwy Fil yr
Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda
Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd
y cyfnod pontio ar ôl Brexit.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
3 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw'r cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl
Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis
Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn symud y Deyrnas Unedig o fod yn
ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith
niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth
ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth wadu'r broses ddemocrataidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
3 |
46 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu ‘ond serch hynny, yn derbyn bod y
cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach'
a rhoi yn ei le 'ac yn credu ei fod yn cynrychioli Brexit caled nad oes mandad
ar ei gyfer ac nad yw o fudd i Gymru'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
1 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn peidio cefnogi bargen Llywodraeth Geidwadol y DU ac yn
galw ar gynrychiolwyr Cymru yn Senedd y DU i bleidleisio yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
27 |
15 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM7530 Rebecca
Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y
DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb
drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol).
3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad
deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i
fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.
4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn
adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a
hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru'
ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y
cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu
cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn
deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.
Y berthynas rhwng y
DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
24 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 12.07, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod
pleidleisio.