Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth)
NDM7529 Jeremy
Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil
Masnach (Datgelu Gwybodaeth) (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.44
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7529 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) (Saesneg
yn unig)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
8 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.