Cyfarfodydd
Penderfyniad Blynyddol ar gyfer y Chweched Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 3)
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (11.15 - 12.00)
Cyfarfod: 02/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (09.35 - 11.00)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
-
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’r
ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad, i lywio
penderfyniadau ynghylch y Penderfyniad ar gyfer 2023/23 a gaiff eu gwneud yng
nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Mawrth.
Cyfarfod: 08/12/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 4)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad (10:45 - 12:00)
·
Paper 4 - Cover paper
·
Paper 4a - Ways of working
· Paper 4b – Allowances
· Paper 4c - Salaries
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
- Bu'r Bwrdd yn ystyried newidiadau posibl i'r Penderfyniad
ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2023-24) at ddibenion ymgynghori.
- Cytunodd y Bwrdd ar ei ddull o ymgynghori a fydd yn cael
ei gyhoeddi ar 9 Ionawr ac a fydd yn rhedeg tan 9 Chwefror.
- Cytunodd y Bwrdd i gynnal cyfarfod rhithwir ychwanegol yn
fuan ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law –
ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’w gynigion yn sgil ymatebion o’r fath –
cyn cyfarfod ym mis Mawrth i gytuno ar newidiadau terfynol i’r Penderfyniad ar
gyfer 2023-24.
Cyfarfod: 04/03/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14 , View reasons restricted (2/1)
- Cyfyngedig 15 , View reasons restricted (2/2)
- Cyfyngedig 16 , View reasons restricted (2/3)
- Cyfyngedig 17 , View reasons restricted (2/4)
Cofnodion:
2.1
Gwahoddodd
y Cadeirydd y Clerc i gyflwyno papur yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i
ymgynghoriad y Bwrdd ar newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched
Senedd. Yn ogystal, cyflwynodd y Clerc y
Penderfyniad a’r adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r Penderfyniad i’r Bwrdd
i’w cymeradwyo.
2.2
Esgusododd
y Cadeirydd ei hun o ail hanner y trafodion ar gyfer yr eitem hon. Cytunodd y
Bwrdd y byddai Mike Redhouse yn
Cadeirio'r cyfarfod yn ei habsenoldeb.
2.3
Trafododd
y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, a
chytunodd arnynt. Roedd y newidiadau dan sylw yn cynnwys y canlynol:
·
Cytunodd
y Bwrdd i ddefnyddio’r cyflog sydd wedi'i rewi ar gyfer 2020-21 fel y cyflog
sylfaenol ar gyfer y Chweched Senedd;
·
Cytunodd
y Bwrdd i gymhwyso'r cynnydd o 2.4 y cant sy’n gysylltiedig â mynegai’r Arolwg
Blynyddol o Oriau ac Enillion (mynegai ASHE), i'r cyflog sylfaenol hwnnw, a
hynny o ddechrau'r Chweched Senedd;
·
Cytunodd
y Bwrdd i gyflwyno mecanwaith 'cap a choler' at ddibenion mynegeio cyflogau’r
Aelodau. Byddai hyn yn cyflwyno terfyn uchaf blynyddol o 3 y cant o ran y
cynnydd sy’n gysylltiedig â mynegai ASHE, ac yn diystyru unrhyw ostyngiad llai
na sero y cant i godiadau cyflog Aelodau a deiliad swyddi ychwanegol yn y
Chweched Senedd;
·
Cytunodd
y Bwrdd fod y trefniadau cyfredol ar gyfer gwariant ar lety preswyl yn
ddigonol;
·
Cytunodd
y Bwrdd i ddileu cyfeiriadau at Frwsel mewn darpariaethau sy'n ymwneud â
theithio i'r Undeb Ewropeaidd;
·
Cytunodd
y Bwrdd ar gynigion ar gyfer trosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a fyddai'n
caniatáu i'r Aelodau hawlio yn ôl o’r lwfans hwn unrhyw gostau sy'n deillio o
newid enw'r sefydliad;
·
Cytunodd
y Bwrdd i gael gwared ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Polisi ac
Ymchwil a Chyfathrebu, ac i gynnwys y terfyn amser ar gyfer defnydd o’r fath ym
Mhennod 8 o'r Penderfyniad (cymorth i bleidiau). Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd i
fewnosod paragraff yn y Penderfyniad yn nodi'n glir na chaniateir defnyddio'r
Gronfa Polisi ac Ymchwil a Chyfathrebu i dalu costau yn ymwneud ag argraffu ac
arwyddion;
·
Cytunodd
y Bwrdd ar gynigion i gyflwyno cyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr i'r cynllun
pensiwn ar gyfer staff cymorth, ac i annog staff i fanteisio ar y ddarpariaeth
newydd;
·
Cytunodd
y Bwrdd ar gynigion i ddiwygio'r diffiniad o blaid wleidyddol;
·
Cytunodd
y Bwrdd i fewnosod paragraffau newydd yn y Penderfyniad i alluogi staff cymorth
i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus, fel
gwasanaethu ar reithgor.
2.4
Trafododd
y Bwrdd y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig, a
chytunodd arnynt, yn amodol ar y gwelliannau uchod.
2.5
Cytunodd
y Bwrdd ar ei strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu ynghylch y Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig.
2.6
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar y contract staff cymorth.
Gwahoddodd y Cadeirydd Joanna Adams i gyflwyno’r materion a oedd yn weddill i'w
datrys.
2.7 Trafododd y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r contract staff cymorth a chytunodd i anfon llythyr at yr holl ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2
Cyfarfod: 10/12/2020 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)
Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
2.1 Cytunodd
y bwrdd i ohirio’r drafodaeth ar gymorth mewn perthynas â diogelwch yr Aelodau
tan y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai’r materion hyn yn cael eu trafod fel
rhan o drafodaeth strategol ehangach ar y cymorth mewn perthynas â diogelwch a
roddir i Aelodau o’r Chweched Senedd.
2.2
Trafododd y bwrdd gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriad
fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.
Cytunodd y bwrdd ar y cynigion a ganlyn:
·
O gofio’r amgylchiadau economaidd presennol, ar ôl rhewi
cyflogau’r Aelodau yn 2019/20, mae’r bwrdd yn cynnig:
o
ar gyfer cyflogau 2020/21, fod penderfyniad y bwrdd i
rewi cyflogau ar gyfradd 2019/20 yn parhau (hynny yw, peidio â chynyddu
cyflogau 4.4 y cant, sef y cynnydd mewn enillion cyfartalog a gafwyd gan
weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol);
o
ar gyfer cyflogau 2021/22, i gynyddu’r cyflogau sylfaenol
a gafodd eu rhewi 2.4 y cant, sef y cynnydd a gafwyd gan weithwyr eraill yng
Nghymru yn y flwyddyn berthnasol – mae hyn yn golygu mai cyflog sylfaenol
Aelodau ar ddechrau’r Chweched Senedd fydd £69,273, yn hytrach na’r £72,321 a
gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020; a
o
chyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog
blynyddol, yn gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a
gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant i gyflogau’r Aelodau a deiliaid
unrhyw swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd.
·
Peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r lwfans Gwariant ar
Lety Preswyl ar gyfer y Chweched Senedd.
·
Dileu unrhyw gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd, neu
roi’r term priodol yn lle’r cyfeiriadau hyn yn ôl yr angen, yn narpariaethau’r
Penderfyniad ynghylch teithiau gan Aelodau.
·
Symud costau deunyddiau ysgrifennu mewn ffordd niwtral o
ran cost o Gomisiwn y Senedd at Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.
I adlewyrchu hyn, bydd lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr
yn cynyddu £1,800 i £20,060 (neu £6,712 lle bo Aelod yn gweithio o Dŷ
Hywel yn unig) ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.
·
Bydd Aelodau sy’n dychwelyd yn gallu hawlio costau sy’n deillio
o newid enw’r sefydliad i’r Senedd o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag
Etholwyr.
·
Gwella cynllun pensiwn staff cymorth drwy gyflwyno
cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr, lle bydd y cyflogwr yn talu swm sy’n
gyfatebol i gyfraniad y cyflogai hyd at uchafswm o 3 y cant o gyflog y
cyflogai;
·
O ran cyflogau staff cymorth Aelodau o’r Senedd yn ystod
y Chweched Senedd, cyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog
blynyddol, yn ôl mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod
unrhyw ostyngiad o dan sero y cant.
· Dileu’r angen am ganllawiau ychwanegol gan y bwrdd ynghylch y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu. Fel sy’n digwydd gyda’r holl wariant o dan y Penderfyniad, bydd Rheolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch Defnyddio Adnoddau’r Senedd yn berthnasol. Fel diwygiad canlyniadol, mae’r bwrdd yn cynnig cynnwys terfyn amser cyfatebol o bedwar mis cyn etholiad cyffredinol yn y Penderfyniad ynghylch polisi ac ymchwil o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2