Cyfarfodydd

P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau'r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yr ymateb pellach gan y Gweinidog a'i ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl opsiynau’n agored pan gaiff argymhellion yr adolygiad cyflog annibynnol eu gwneud. Fodd bynnag, o ystyried y ffaith na ddisgwylir hyn tan fis Mai 2021 ac mai Llywodraeth y DU sy’n pennu’r amserlenni, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar hyn o bryd. Felly, pwysleisiodd yr Aelodau eu cefnogaeth a chytunwyd i gau'r deisebau a diolch i'r deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei gefnogaeth i'r ddeiseb, yn ogystal â'r tebygolrwydd y bydd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG yn adrodd ar ei argymhellion ddechrau mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ohebiaeth bellach ddiweddar ar ddeiseb P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19 ac ystyried y deisebau gyda'i gilydd yn y dyfodol.