Cyfarfodydd

P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi newid ei ymlyniad o ran plaid yn ystod tymor y Senedd hon.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yn sgil yr ymateb a gafwyd, pa mor agos yw etholiad nesaf y Senedd a'r ffaith y byddai’n amhosibl, o ganlyniad, i roi newid o'r fath ar waith ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ar yr adeg hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.