Cyfarfodydd

P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi ymgyrchu'n helaeth ar y mater hwn.

         

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymrwymiad i ddarparu rhagor o fanylion am gynnig cyllid pan fydd hwn ar gael. Gan mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd 2021, cytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.

 


Cyfarfod: 25/02/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i egluro gwerth unrhyw gyllid canlyniadol y mae wedi'i gael o ganlyniad i wariant ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU, ac i ba ddiben y defnyddiwyd y cyllid hwn;

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu manylion y ddeiseb gyda nhw yng nghyd-destun y gwaith y mae wedi bod yn ymwneud ag ef, mewn perthynas â diogelwch tân mewn blociau preswyl uchel;

·         aros am farn y deisebydd ar yr ymateb manwl a roddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a rhannu'r safbwyntiau hynny â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.