Cyfarfodydd
P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 218 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, 29 Medi 2021, Eitem 3 PDF 296 KB Gweld fel HTML (3/2) 12 KB
Cofnodion:
Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei
gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y
trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 217 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 01.03.21 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 267 KB
Cofnodion:
Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi
ymgyrchu'n helaeth ar y mater hwn.
Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymrwymiad i
ddarparu rhagor o fanylion am gynnig cyllid pan fydd hwn ar gael. Gan mai hwn
yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd 2021, cytunodd i
drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd.
Cyfarfod: 25/02/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1.a. Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch
tân mewn adeiladau uchel iawn.
Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 217 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil, Eitem 2 PDF 108 KB
- 08.01.21 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 277 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
·
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i egluro
gwerth unrhyw gyllid canlyniadol y mae wedi'i gael o ganlyniad i wariant ar y
mater hwn gan Lywodraeth y DU, ac i ba ddiben y defnyddiwyd y cyllid hwn;
·
ysgrifennu at y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu manylion y ddeiseb gyda nhw
yng nghyd-destun y gwaith y mae wedi bod yn ymwneud ag ef, mewn perthynas â
diogelwch tân mewn blociau preswyl uchel;
·
aros am farn y deisebydd ar yr
ymateb manwl a roddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a rhannu'r
safbwyntiau hynny â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.