Cyfarfodydd

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

NDM7574 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.

Gosodwyd y Gorchymyn Drafft (Saesneg yn unig) a'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Ymateb y Cwnsler Cyffredinol i adroddiad y Pwyllgor

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7574 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.

Gosodwyd y Gorchymyn Drafft (Saesneg yn unig) a'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2021.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

4

53

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 25/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

CLA(5)-03-21 – Papur 46 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 20 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, a oedd yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Orchymyn arfaethedig Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021. Nododd hefyd fod Gorchymyn drafft Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 bellach wedi'i osod.

 


Cyfarfod: 11/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Gorchymyn Arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-01-21 – Papur 80 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 14 Ionawr 2021.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn unol â Rheol Sefydlog 25.7(i) a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad arno yw 14 Ionawr.

 

 


Cyfarfod: 14/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Gorchymyn Arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 14/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gorchymyn Arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021: Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

Anna Hind, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-37-20Papur briffio

CLA(5)-37-20 – Papur 1 – Gorchymyn Arfaethedig

CLA(5)-37-20 – Papur 2 – Memorandwm Esboniadol (Llywodraeth Cymru)

CLA(5)-37-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol (Llywodraeth y DU)

CLA(5)-37-20 – Papur 71

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â’r Gorchymyn arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor.