Cyfarfodydd

P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

 

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch ymgynghori â rhanddeiliaid pan fydd yn bwrw ymlaen â’r adolygiad o’r Cod, er na all roi amserlen benodol ar hyn o bryd oherwydd effaith ffliw’r adar, Covid a Brexit. Yng ngoleuni y sicrwydd hwb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru unwaith eto, ac am y tro olaf, i ofyn am ymatebion penodol i'r pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd, ac i dynnu sylw at y Bil Adar Hela (Bridio Mewn Cewyll) sydd wedi cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi.

 

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i ofyn am ymateb i'r meysydd a amlygwyd gan y deisebydd, gan ofyn sut y gallant ddylanwadu a rhyngweithio â'i gilydd, yn ogystal â'r alwad gan y deisebydd, ynghyd ag amserlen glir ar gyfer cwblhau’r broses.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i gyfeirio'r ddeiseb at y Senedd nesaf a gofyn i'w bwyllgor olynol ystyried yr alwad i wahardd defnyddio cewyll adar hela a'r adolygiad o'r Cod Ymarfer er Lles Adar Hela yn y cyd-destun bryd hynny.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         rhannu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebwyr;

·         ceisio diweddariad ar yr adolygiad o'r Cod Ymarfer a roddwyd ar waith yn 2019, ac unrhyw waith ymchwil pellach sy'n cael ei ystyried ar y mater hwn; a

·         cheisio eglurhad o ran pam nad yw'r Gweinidog yn bwriadu cymryd camau pellach i wahardd yr arfer o gewyllu adar at y diben hwn.