Cyfarfodydd

P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymatebion pellach a ddaeth i law a boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r camau a gymerwyd i sefydlu Cytundeb Rheoli, a phenodi Rheolwr y Warchodfa yn ddiweddar. O ystyried hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw'n ymddangos bod prynu gorfodol yn ddatrysiad priodol ar hyn o bryd, a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gorfforaeth Cynffig i geisio barn mewn ymateb i'r ddeiseb, a gofyn am ragor o wybodaeth cyn ystyried a oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ynghylch y ddeiseb.