Cyfarfodydd
P-05-1099 Peidiwch â chau'r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 214 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 22.12.20 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3
PDF 220 KB
- 03.01.21 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3
PDF 383 KB Gweld fel HTML (3/3) 16 KB
Cofnodion:
Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â'r
ddeiseb P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini
alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel
rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y
ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod
digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o
gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr.
Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafodwyd y ddeiseb hon ar y
cyd â'r ddeiseb P-05-1100
Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl
6pm.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am
ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu
cymryd ynghylch y deisebau hyn bryd hynny. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i
ysgrifennu yn ôl at y deisebydd i ofyn am ffynhonnell yr ystadegau a
ddefnyddiwyd yn y ddeiseb.
O ran dadl yn y Cyfarfod Llawn,
nododd y Pwyllgor fod y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch wedi cael eu
codi sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan
gynnwys ar 1 Rhagfyr ac mewn dadl a phleidlais ar 9 Rhagfyr, a bydd y
Rheoliadau eu hunain yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn brynhawn 15
Rhagfyr. Felly cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i'w
hysbysu am y ddeiseb ond i beidio â gofyn am ddadl ar hyn o bryd.