Cyfarfodydd

P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Ymateb gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 


Cyfarfod: 27/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 16/12/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau – Deiseb P-05-1078 - Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid! - 2 Rhagfyr 2021

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y bydd yn cymryd amser i sefydlu ac ymgorffori dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran darparu gwasanaeth 24 awr y dydd lle cynigir ymatebion priodol a llwybrau cymorth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud cais bod y ddeiseb a'r ohebiaeth yn cael eu cynnwys fel rhan o waith craffu yn y dyfodol ar wasanaethau iechyd meddwl.

 

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i Laura am rannu ei phrofiadau o ran yr heriau y mae'n parhau i'w hwynebu wrth geisio cael mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol ac amserol, a hynny er mwyn dylanwadu ar y broses a’i newid er budd eraill sy’n wynebu amgylchiadau tebyg. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd, a nododd fod y ddeiseb wedi'i thrafod yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddiwethaf a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater ac i rannu atgrynhoad o'r ddadl gyda'r deisebydd. Roedd yr Aelodau'n cofio ymgyrchoedd cryf dros fynediad 24 awr at wasanaeth Iechyd Meddwl yn ystod ymgyrch yr etholiad – a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater cysylltiedig hwnnw.

 


Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng

NDM7624 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion.

Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM7624 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion.

P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         gofyn am ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru eto;

·         aros am ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith Covid-19 ar iechyd meddwl; a

·         cheisio amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch y ddeiseb.