Cyfarfodydd

Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/04/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Adroddiad gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Hunanddarparwyr Proffesiynol y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 3)

3 Gweithio o Bell: Goblygiadau i Gymru - ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb


Cyfarfod: 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru

 

NDM7653 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

NDM7653 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 24/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gweithio o Bell: y Goblygiadau i Gymru – Craffu ar Waith y Gweinidog

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Lea Beckerleg, Pennaeth Polisi a Gweithrediadau Gweithio o Bell, Llywodraeth Cymru

Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Lea Beckerleg, Pennaeth Polisi Gweithio o Bell a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru ac Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru ,gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn breifat: Gweithio o Bell - Papur briffio gan academyddion

Bu’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Dr Darja Reuschke, Athro Cyswllt, Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd, Prifysgol Southampton

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-5-21- Tystiolaeth gan: Professor Alan Felstead (Saesneg yn unig)
  • EIS(5)-5-21- Tystiolaeth gan: Dr Darja Reuschke (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

3.1 Cynhaliwyd cyfarfod preifat gyda’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd a Dr Darja Reuschke, Athro Cyswllt, Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol, Prifysgol Southampton


Cyfarfod: 03/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cymorth a chyllid i weithredwyr bysiau

Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru

Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd

John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-4-21 - Papur Briffio

Cofnodion:

2.1 Atebodd Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru; Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd; a John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

2.2 Cytunodd John Burch i gyflwyno rhagor o fanylion am yr addasiadau rhwng nifer y teithwyr y cyllidwyd ar eu cyfer a’r niferoedd gwirioneddol ledled yr ardal dan sylw.


Cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru - tystiolaeth ryngwladol

Yr Athro Kirsimarja Blomqvist, Prifysgol LUT, Y Ffindir

Dr Noortje M Wiezer, Sefydliad Ymchwil Wyddonol Gymhwysol yr Iseldiroedd

Cofnodion:

4.1 Atebodd yr Athro Kirsimarja Blomqvist, Prifysgol LUT, y Ffindir a Dr Noortje M Wiezer, Sefydliad Ymchwil Wyddonol Gymhwysol yr Iseldiroedd gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Dr Noortje M Wiezer i ddarparu rhagor o fanylion am effeithiau gwahaniaethol ar wahanol grwpiau o bobl.


Cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru - tystiolaeth ryngwladol

Antti Närhinen, Cynghorydd Gweinidogol, y Weinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth, Llywodraeth y Ffindir

Marianne Keyriläinen, Cynghorydd Gweinidogol, y Weinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth, Llywodraeth y Ffindir

Cofnodion:

3.1 Atebodd Antti Närhinen, Cynghorydd Gweinidogol, Gweinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth Llywodraeth y Ffindir a Marianne Keyriläinen, Cynghorydd Gweinidogol, Gweinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth Llywodraeth y Ffindir gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gweithio o bell: Y Goblygiadau i Gymru - y gweithlu a chydraddoldeb

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro, Cyngres yr Undebau Llafur Cymru

Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Yr Athro Abigail Marks, Prifysgol Newcastle

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-03-21- Papur Briffio

Cofnodion:

2.1 Atebodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru, Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg a'r Athro Abigail Marks, Prifysgol Newcastle gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Cerys Furlong i ddarparu rhagor o fanylion  am y derminoleg a'r gwahaniaeth rhwng gweithio’n hyblyg, gweithio’n ystwyth, gweithio o bell a gweithio gwasgaredig.


Cyfarfod: 13/01/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gweithio o Bell: Goblygiadau i Gymru – Canolfannau trefol a hybiau cymunedol

Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Phil Roberts, Prif Weithredwr, Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Gareth Jones, Town Square Spaces Cyf

Mike Scott, IndyCube

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-01-21- Papur Briffio

Cofnodion:

4.1 Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor: y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe; Phil Roberts, Prif Weithredwr Cyngor Dinas a Sir Abertawe; Gareth Jones, Town Square Spaces Cyf; a Mike Scott, Cyfarwyddwr IndyCube.


Cyfarfod: 09/12/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gweithio o bell: Y Goblygiadau i Gymru – Busnes

Dr Llŷr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach

Paul Slevin, Llywydd, Siambrau Cymru

Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru

Cofnodion:

4.1 Bu Dr Llŷr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Paul Slevin, Llywydd, Chambers Wales ac Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru yn ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 09/12/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gweithio o bell: Y Goblygiadau i Gymru – Academyddion

Yr Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Caerdydd

Dr Jane Parry, Ysgol Fusnes Southampton, Prifysgol Southampton

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-26-20- Papur 4: Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

3.1 Bu’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd a Dr Jane Parry, Ysgol Fusnes Southampton, Prifysgol Southampton yn ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor