Cyfarfodydd

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i farw-enedigaethau yng Nghymru: ystyried ymateb y Gweinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafodwyd ymateb y Gweinidog gan y Pwyllgor a chytunwyd i beidio â gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd.

 


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Gwybodaeth ddilynol ar yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: trafod yr allbwn drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw. 


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwybodaeth ddilynol am yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am rai materion penodol a godwyd yn y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Adroddiad cynnydd ar: marw-enedigaethau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid perthnasol yn gofyn am eu barn am yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 08/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

 

NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 28/06/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar farw-enedigaethau yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 28/06/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru - Tystiolaeth lafar

 

09:00 – 09:40

HSC(4)-19-12 papur 1 – Cronfa ymchwil marw-enedigaeth Holly Martin

          Isobel Martin

HSC(4)-19-12 papur 2 – Sands

Janet Scott, Rheolwr Ymchwil ac Atal

Shirley Gittoes, Ymddiriedolwr ac Is-gadeirydd Rhwydwaith Sands yng Nghymru

 

09:40 – 10:20

HSC(4)-19-12 papur 3 – Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant

Elizabeth Duff, Uwch-gynghorydd Polisi

Marilyn Wills, Cynghorydd Polisi

HSC(4)-19-12 papur 4 – Y Gynghrair Marw-enedigaethau Rhyngwladol

Yr Athro Gordon Smith

HSC(4)-19-12 papur 5 – Canolfan gwyddorau iechyd academaidd Manceinion

Dr Alexander Heazell

 

10:20 – 10:30 Egwyl

 

10:30 – 11:10

HSC(4)-19-12 papur 6 – Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr

Mr Bryan Beattie

HSC(4)-19-12 papur 7 – Sefydliad amenedigol Gorllewin Canolbarth Lloegr

Yr Athro Jason Gardosi, Cyfarwyddwr

 

11:10 – 11:50

HSC(4)-19-12 papur 8 – Coleg Brenhinol y Bydwragedd

Julia Chandler, Swyddog Cenedlaethol

Stuart Bonar, Swyddog Materion Cyhoeddus

HSC(4)-19-12 papur 9 – BMA Cymru

Dr Mark Temple, Cadeirydd – Pwyllgor Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd Cymru

Mr Phil Banfield, aelod o Gyngor BMA Cymru

 

11:50 – 13:00 Cinio

 

13:00 – 13:40

HSC(4)-19-12 papur 10 – Llywodraeth Cymru

Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Polly Ferguson - Iechyd Atgenhedlol Menywod 

Dr Heather Payne - Uwch-swyddog Meddygol (Iechyd Mamau a Phlant)

 

13:40 – 14:20

HSC(4)-19-12 papur 11 – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Siobhan Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus / Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd Cyhoeddus

HSC(4)-19-12 Papur 12 – Arolwg Amenedigol Cymru gyfan

Dr Shantini Paranjothy

 

14:20 – 15:00

HSC(4)-19-12 papur 13 – Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Nyrsio

HSC(4)-19-12 papur 14 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Fiona Giraud, Pennaeth Staff Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau i Fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar farw-enedigaethau yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Siobhan Jones i gadarnhau a yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymgysylltu â chymunedau lleiafrifol ethnig ar y mater o farw-enedigaethau, ac i ddarparu enghreifftiau o’r gwaith hwnnw os felly.


Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad undydd i farwenedigaeth yng Nghymru - Ystyried y cylch gorchwyl

HSC(4)-11-12 papur 11

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ei ymchwiliad undydd i farwenedigaeth yng Nghymru.