Cyfarfodydd
Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymddygiad ar y weithdrefn ddiwygiedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - adborth
Cofnodion:
2.1 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau adborth i'r Pwyllgor
ar sut roedd y Weithdrefn ddiwygiedig yn gweithio hyd yn hyn.
2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater mewn
cyfarfod diweddarach.
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)
Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , View reasons restricted (3/1)
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau terfynol i'r
Weithdrefn.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canllawiau i gyd-fynd â'r
Weithdrefn, yn amodol ar rai mân newidiadau.
Cyfarfod: 06/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , View reasons restricted (3/1)
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a'r Weithdrefn
ddiwygiedig a chytunodd i wneud nifer o newidiadau pellach, a dychwelyd at y
mater yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)
Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12 , View reasons restricted (2/1)
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd
Safonau a chytunodd i wneud diwygiadau pellach i’r Weithdrefn ddrafft.
Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymgynghoriad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15 , View reasons restricted (2/1)
Cofnodion:
2.1 Trafododd y
Pwyllgor y weithdrefn ddrafft ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r
Senedd, a chytunodd arni.
2.2 Cytunodd y
Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn newydd.
Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)
4 Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19 , View reasons restricted (4/1)
Cofnodion:
4.1 Trafododd y
Pwyllgor y weithdrefn bresennol ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r
Senedd a chytunodd i'w hystyried ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.