Cyfarfodydd

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymddygiad ar y weithdrefn ddiwygiedig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - adborth

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau adborth i'r Pwyllgor ar sut roedd y Weithdrefn ddiwygiedig yn gweithio hyd yn hyn.

 

2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod diweddarach.

 


Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau terfynol i'r Weithdrefn.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canllawiau i gyd-fynd â'r Weithdrefn, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 06/06/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 3)

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a'r Weithdrefn ddiwygiedig a chytunodd i wneud nifer o newidiadau pellach, a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau a chytunodd i wneud diwygiadau pellach i’r Weithdrefn ddrafft.

 


Cyfarfod: 06/12/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 2)

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymgynghoriad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y weithdrefn ddrafft ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, a chytunodd arni.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn newydd.


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Eitem 4)

4 Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y weithdrefn bresennol ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd a chytunodd i'w hystyried ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.