Cyfarfodydd

P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pa gamau pellach y gellid eu cymryd ar y mater hwn, gan nodi bod rhai camau gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y strategaeth economi gylchol 'Mwy Nag Ailgylchu' a'r bwriad i gyhoeddi Cynllun Atal Sbwriel y flwyddyn nesaf, a fydd yn cynnwys camau i fynd i'r afael â thaflu sbwriel o gerbydau. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Llywodraeth i dynnu sylw at ei ddiddordeb yn y cynnig yn y ddeiseb ac i aros am ymateb a sylwadau pellach gan y deisebydd cyn trafod a oes camau pellach y gallai eu cymryd.