Cyfarfodydd

P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu'n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i'r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod cysgodi tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn.  Roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebydd am gyflawni’i hamcanion.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu’r pryderon pellach a fynegwyd gan y deisebydd ac eraill. Yng ngoleuni'r awgrymiadau bod rhai cyflogwyr yn dangos diffyg empathi neu gefnogaeth i bobl sy’n wynebu risg uchel, cytunodd y Pwyllgor i ofyn pa gamau y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, neu y gallai eu cymryd, yn erbyn cyflogwyr nad ydynt yn gwneud gweithleoedd yn ddiogel, neu nad ydynt yn ymateb yn briodol i amgylchiadau aelodau o’u gweithlu sy’n agored i niwed.