Cyfarfodydd

P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y camau gweithredu ar y mater bellach yn nwylo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb, gan nodi'r ohebiaeth.

 

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor pan fydd yn gwneud penderfyniad yngylch ei Flaenraglen Waith, ac a fydd hyn yn cynnwys ymchwiliad i wasanaethau ambiwlans.


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn holi sut mae'n bwriadu ymateb i'r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad strategol, a'r amserlen ar gyfer ei weithredu; ac i

·         geisio barn y deisebwr am yr Adolygiad Strategol.

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganfyddiadau’r adolygiad.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am hynt yr adolygiad a’r canfyddiadau unwaith y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau;

Ysgrifennu at yr Athro Siobhan McCelland i’w hysbysu am y ddeiseb hon.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb a’r dystiolaeth ategol at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac i ohirio ystyried y ddeiseb tan fydd yr Archwilydd Cyffredinol wedi cwblhau ei waith ar wasanaethau gofal heb ei drefnu.

 

 


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Deiseb P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

HSC(4)-07-12 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymatebion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r Pwyllgor Deisebau cyn ystyried unrhyw waith ar y mater hwn.


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 

Ysgrifennu at y Gweinidog ac at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn cael eu barn gychwynnol ar y ddeiseb;

Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n fodlon ystyried gwneud gwaith ar y mater hwn;

Cyfeirio’r deisebwyr at adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans;

Ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn a yw’n bwriadu ailedrych ar yr adroddiad ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn y dyfodol.