Cyfarfodydd
P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 217 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- 20.11.20 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 240 KB
- 24.11.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 176 KB Gweld fel HTML (2/3) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y
mater hwn. Yn sgil ystod o ddeisebau a phryderon a ddaeth i law ynghylch
mynediad at gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd
corfforol – ac i sicrhau defnydd effeithlon o amser y Cyfarfod Llawn – cytunodd
y Pwyllgor y dylai'r cynnig am ddadl gwmpasu'r cyd-destun ehangach hwn gan
ganiatáu, felly, trafod ystod o chwaraeon a mangreoedd.