Cyfarfodydd

P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno moratoriwm ar ynni newydd ar raddfa fawr o weithfeydd gwastraff, a’i fod yn gwerthfawrogi manylion pellach ynghylch y broses.

Yn sgil y ffaith nad oedd gan y deisebydd unrhyw faterion pellach i'w codi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch y deisebydd ar sicrhau canlyniad llwyddiannus.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb gan gynnwys:

  • a yw’r ceisiadau i ddatblygu llosgyddion mawr sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd fel rhan o’r broses gynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol wedi'u hatal ac a ydynt hefyd yn ddarostyngedig i'r moratoriwm; ac
  • a fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn awr yn gwrthod derbyn rhagor o geisiadau i ddatblygu llosgyddion ar raddfa fawr.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig eto i ofyn am ymateb i gais blaenorol y Pwyllgor am esboniad llawn o’r ffaith bod y Llywodraeth yn teimlo na fyddai moratoriwm ar ddatblygu llosgyddion newydd yn briodol ar hyn o bryd.

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn:

·         a ellid cludo gwastraff na ellir ei ailgylchu i Gymru i gefnogi hyfywedd llosgyddion, wrth i wastraff yng Nghymru leihau ac, os felly, a fyddai hyn yn effeithio ar yr ymdrechion i gyrraedd targedau ailgylchu;

·         a yw Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw effaith yn deillio o’r penderfyniad a wnaed gan Tsieina i beidio â derbyn mewnforio gwastraff plastig ar gyfer ailgylchu mwyach; ac

·         i gael rheswm llawn pam mae'r Gweinidog yn teimlo na fyddai moratoriwm ar ddatblygu llosgyddion newydd yn briodol ar hyn o bryd.