Cyfarfodydd

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Proses Penodi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro

NDM7559 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi gan Ei Mawrhydi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer tymor sy’n dechrau ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7559 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi gan Ei Mawrhydi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer tymor sy’n dechrau ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

1

2

51

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y cynnig drafft, yr adroddiad drafft a’r telerau ac amodau drafft ar gyfer penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro, gan gytuno arnynt.

 


Cyfarfod: 07/12/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - y diweddaraf am y broses benodi

Cofnodion:

3.1. Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – trafod y broses benodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu ar gyfer y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.