Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd: Swyddfa’r Farchnad Fewnol

CLA(5)-08-21 – Papur 28 – Llythyr gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, 2 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

 


Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Confensiwn Sewel

CLA(5)-06-21 – Papur 30 – Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 16 Chwefror 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 31 – Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 21 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – papur briffio

CLA(5)-05-21 – Papur 39 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU.

 


Cyfarfod: 01/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – sesiwn friffio

CLA(5)-04-21 – Papur 40 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn friffio tan y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 25/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020

CLA(5)-03-21 – Papur 44 – Datganiad ysgrifenedig, 19 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 11/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Datganiad gan Lywodraeth y DU: Diweddariad ar Fil Marchnad Fewnol y DU

CLA (5)-01-21 - Papur 72 - Datganiad gan Lywodraeth y DU, 17 Rhagfyr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU ac mewn sesiwn breifat cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 


Cyfarfod: 14/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

14 Bil Marchnad Fewnol y DU - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-37-20 – Papur 68 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU.

 


Cyfarfod: 10/12/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan yr Arglwydd True, y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa'r Cabinet at y Cadeirydd ynghylch Bil y Farchnad Fewnol y DU - 9 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Am 16.52, cafodd y trafodion eu hatal am bum munud gan y Dirprwy Lywydd oherwydd anawsterau technegol yn y Siambr. Am 16.57, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.02, cafodd y cyfarfod ei atal am 25 munud, ac am 17.27, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.30, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro eto.

Am 17.45, cafodd y trafodion eu gohirio gan y Dirprwy Lywydd.

Caiff y cyfarfod ei ailgynnull am 12.30 dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 07/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

CLA(5)-36-20 – Papur 37 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, gan nodi hefyd y byddai’r ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2020.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 8 Rhagfyr 2020

Ni chyflwynwyd cynnig.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan 8 Rhagfyr 2020

 


Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Bil Marchnad Fewnol y DU - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-35-20 – Papur 28 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU.

 


Cyfarfod: 23/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-34-20 – Papur 37 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y drafft diwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y DU, a chytunodd i gwblhau’r newidiadau y tu allan i’r Pwyllgor cyn ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 


Cyfarfod: 19/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Bil Marchnad Fewnol y DU: Cydsyniad Deddfwriaethol – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno yn amodol ar newidiadau.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Bil Marchnad Fewnol y DU: Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi

CLA(5)-33-20 – Papur 51 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU yn Nhŷr Arglwyddi.

 


Cyfarfod: 16/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-33-20 – Papur 53 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y DU, a chytunodd i drafod drafft terfynol cyn ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 


Cyfarfod: 12/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Bil Marchnad Fewnol y DU - dull ar gyfer adrodd

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau eu dull gweithredu a chytunwyd arno.

 


Cyfarfod: 12/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Bil Marchnad Fewnol y DU: Yr Arglwydd True - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 12/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Bil Marchnad Fewnol y DU: Yr Arglwydd True, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa'r Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd yr Arglwydd True gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-32-20 – Papur 49 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddrafft cyntaf ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y DU. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Bil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol

 

 

Papurau ategol:

FIN(5)-20-20 P8 - Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Marchnad Fewnol y DU gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol

Sophie Brighouse, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Llywodraeth Cymru

Gareth McMahon, Uwch-Cyfreithiwr Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

CLA(5)-31-20 – Papur briffio

CLA(5)-31-20 – Papur 1 - Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-31-20 – Papur 2 - Nodyn cyngor cyfreithiol

CLA(5)-31-20 – Papur 3 – Gwasanaeth Ymchwil: Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi

CLA(5)-31-20 – Papur 4 - Gwasanaeth Ymchwil: Crynodeb diweddaraf o'r Bil

CLA(5)-31-20 – Papur 5 – Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 3 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y DU.

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU

CLA(5)-30-20 – Papur 40 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 12 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Bil Marchnad Fewnol y DU: Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-30-20 – Papur 43 – Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-30-20 – Papur 44 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU. At hynny, nododd y Pwyllgor y byddai'n clywed tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd 2020, a bod aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid wedi eu gwahodd i ymuno â'r cyfarfod.

 


Cyfarfod: 15/10/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Bil Marchnad Fewnol y DU

Yr Athro Jo Hunt - Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yr Athro Dan Wincott - Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

Goblygiadau Cyfansoddiadol Cynigion Marchnad Fewnol y DU [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

6.1     Atebodd y panel gwestiynau gan yr Aelodau.


Cyfarfod: 15/10/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Cadeirydd ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU - 7 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1  Cafodd y papur ei nodi.


Cyfarfod: 15/10/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU - 3 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Cafodd y papur ei nodi.


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU

CLA(5)-29-20 – Papur 43 – Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 3 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 


Cyfarfod: 08/10/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Bil Marchnad Fewnol y DU – trafod dull gweithredu’r Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Trafododd yr Aelodau eu dull gweithredu a chytuno arno.