Cyfarfodydd

NDM7389 Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd

NDM7389 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; ac

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.