Cyfarfodydd

P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod y deisebwyr yn fodlon â’r penderfyniad i ddysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch yn 2021 gael Graddau a bennir gan Ganolfan, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch a llongyfarch y deisebwyr am eu gwaith.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd a’r amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cymryd i addasu cynnwys y cwrs a’r asesiad ohono yn y fframwaith rheoleiddio. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb ac i'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar gan y deisebwyr a CBAC, cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu cymryd.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         aros am ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i ddyfarnu graddau yn 2020 a 2021 a’r penderfyniadau y disgwylir i'r Gweinidog Addysg eu gwneud yn fuan; ac

·         ysgrifennu at Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ofyn am ymateb i bryderon y deisebwyr ynghylch y gwahaniaethau yn y dull o addasu cynnwys cyrsiau sy'n digwydd o ran pynciau unigol, a’r alwad am ragor o ddewisoldeb mewn papurau arholiad os na chaiff cynnwys cyrsiau ei leihau.