Cyfarfodydd
NDM7372 Brexit Party Debate - UK Internal Market Bill
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
Dadl Plaid Brexit - Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
NDM7372 Mark
Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn croesawu Bil
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Bil
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn croesawu rhai
rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol,
bwerau pwysig o'r UE i'r DU.
[Os derbynnir
Gwelliant 1, bydd Gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y
Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli
a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a
hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.
[Os derbynnir
Gwelliant 2, bydd Gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd yn
cytuno bod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar
genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru.
Gwelliant 4 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y
rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli
pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth
yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i
gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi
Cymru.
Gwelliant 5 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid
dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol
datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol
mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n
helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.
Gwelliant 6 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r
pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu
datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu
mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.
Gwelliant 7 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am refferendwm
cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig
Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon)
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn
sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas
Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
0 |
52 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y
DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei
ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
2 |
22 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod Gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad
Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a
Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae
Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar
ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o
gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol,
ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw
elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd
pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd
gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried
sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau
datganoledig presennol sydd ganddynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a
ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil
amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
2 |
2 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio
annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad
Fewnol Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y
DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei
ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl
Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
2 |
13 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.