Cyfarfodydd

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb. Yng ngoleuni’r ddadl a gafwyd eisoes yn y Cyfarfod Llawn, ynghyd â thrafodaethau’r Pwyllgor a’r dadleuon a gafwyd yn y llysoedd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd modd cymryd y ddeiseb ymhellach, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo ddiddordeb mewn cael y gofal canser gorau posibl yn Ne Cymru. 

 

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau ychwanegol, gan gynnwys mewn perthynas â bodolaeth 'adroddiad Barrett', pryderon a godwyd gan y BMA ym mis Awst ynghylch ymgynghori â staff, a nifer y galwadau brys a throsglwyddiadau i safleoedd eraill; a

·         chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn iddo ystyried a fyddai’n bosibl trefnu dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn  cyn diwedd y Senedd hon.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

 

Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd gan nifer o bartïon a’r ffaith bod y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn:

·         Tynnu sylw at y wybodaeth a gafodd y Pwyllgor yng nghyd-destun y gwaith craffu ar yr Achos Busnes Amlinellol o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y gwaith hwn yn sgil cyhoeddi cyngor Ymddiriedolaeth Nuffield, a amserlen ddangosol ar gyfer ystyriaeth bellach o’r Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Gymru; a

·         Gofyn am ymateb i bwyntiau pellach a wnaed gan y deisebwyr ar gyfer P-05-1001 mewn perthynas â'u barn bod angen adolygiad annibynnol llawn o'r model clinigol o hyd, cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y prosiect.

 

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, a chytunwyd i:

 

  • ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ymateb i’r deisebau, a hefyd mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd yn ddiweddar ynghylch y model clinigol;
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw’r pwyllgor yn bwriadu cynnal unrhyw waith ar y mater hwn;
  • ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn nifer o gwestiynau pellach am y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser; ac
  • ysgrifennu at arweinwyr canser ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i ofyn am eu barn ynghylch y model a gynigir.