Cyfarfodydd

SL(5)583 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Ty Gwydr 2020

NDM7444 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad Fframwaith Cyffredin y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Memorandwm Esboniadol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7444 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

8

2

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 46 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a chytunwyd arno yn ddarostyngedig i fân ddiwygiadau.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-29-20 – Papur 45 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i’w drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 SL(5)583 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 25 – Adroddiad

CLA(5)-27-20 – Papur 26 – Gorchymyn

CLA(5)-27-20 – Papur 27 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-20 – Papur 28 - Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 18 Medi 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 29 - Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 10 Medi 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 30 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 15 Gorffennaf 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 31 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn. Cytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

CLA(5)-25-20 - Papur briffio

CLA(5)-25-20 – Papur 1 – Gorchymyn

CLA(5)-25-20 – Papur 2 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-25-20 – Papur 3 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 15 Gorffennaf 2020

CLA(5)-25-20 – Papur 4 - Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 10 Medi 2020

CLA(5)-25-20 – Papur 5 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunwyd i drafod adroddiadau drafft ar y Gorchymyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.