Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/01/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

NDM7542 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf a 2 Rhagfyr 2020, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.01

NDM7542 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf a 2 Rhagfyr 2020, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 11/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

CLA(5)-01-21 – Papur 76 – Llythyr gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 5 Ionawr 2021

CLA(5)-01-21 – Papur 77 – Llythyr gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 5 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 14/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol – trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-37-20 – Papur 66 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol a chytunodd arno.  Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 07/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

CLA(5)-36-20 – Papur 36 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cysyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, gan gytuno i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 47 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser, sef 22 Hydref 2020.

 


Cyfarfod: 14/10/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol a'r dull gweithredu ar gyfer yr adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan y Gweinidog a thrafododd ei gasgliadau ar gyfer yr adroddiad drafft. Gan nad oes cyfarfod Pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, cytunodd yr aelodau i gymeradwyo’r adroddiad terfynol drwy e-bost.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol - trafod materion allweddol

CLA(5)-27-20 – Papur 49 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-27-20 – Papur 50 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 1 Medi 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 51 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 16/09/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Papur 16 – Ystyriaeth o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a chytunodd i drafod y Memoranwm Cydsyniad Deddfwriaethol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y sesiwn graffu ar 30 Medi.

 


Cyfarfod: 16/07/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: ystyried y dull gweithredu

 

Papur 1 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: ystyried y dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu o ran ystyried y Memorandwm. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig dros doriad yr haf ac ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach am nifer o bwyntiau.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 45

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 22 Hydref.