Cyfarfodydd

P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â blaenoriaethu plant gweithwyr allweddol a gan fod y deisebydd yn fodlon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn a fyddai canllawiau mwy penodol yn cael eu darparu i ysgolion ynghylch cynnwys plant y mae angen iddynt ddefnyddio’r ddarpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol hefyd, pe bai ysgolion yn ailagor yn raddol yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i roi’r sylwadau a wnaed gan y deisebydd, ac i ofyn:

·         p'un a yw hi'n ystyried y gellid osgoi gwahaniaethau lleol neu ranbarthol o ran y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant gweithwyr allweddol, a sut y byddai gwneud hynny os bydd unrhyw leihad o ran y ddarpariaeth ysgol yn y dyfodol; a

·         ph'un a fydd grwpiau cyswllt neu 'swigod' ar gael yn llawn o fis Medi i blant gweithwyr allweddol, neu unrhyw rieni sydd angen gofal plant cofleidiol.