Cyfarfodydd

P-05-976 Caniatáu priodasau sy'n cynnwys 5 o bobl (cofrestrydd/y pâr/2 dyst) yn ystod COVID 19 yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-976 Caniatáu priodasau sy’n cynnwys 5 o bobl (cofrestrydd/y pâr/2 dyst) yn ystod COVID 19 yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod nodau'r ddeiseb wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod seremonïau priodas bach bellach yn gallu cael eu cynnal eto yng Nghymru. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyflwyno.