Cyfarfodydd

P-05-975 Ailystyriwch y codiad i'r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-975 Ailystyriwch y codiad i’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan nodi ymateb y Gweinidog Cyllid bod defnyddio'r pŵer dewisol i godi premiwm treth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i nodi barn y deisebydd wrtho.