Cyfarfodydd

P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd fod y ddeiseb wedi cyflawni ei nod o sicrhau bod technoleg prosthetig yn gyfartal â'r hyn sydd ar gael o fewn GIG Lloegr a'r Alban. Cytunodd felly i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar y canlyniad cadarnhaol a gafwyd.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i lunio astudiaeth achos i ddangos sut y gall deisebau wneud gwahaniaeth.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i oedi’r ddeiseb fel y gall y Pwyllgor, neu’r un sy’n ei olynu, drafod diweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl iddo ystyried cyngor newydd.

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn pam mae’r sefyllfa o ran mynediad at brostheteg a reolir gan ficrobroseswyr yn wahanol yng Nghymru.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n uniongyrchol at y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am:

·         y rhesymeg pam nad yw pen-glin prosthetig microbrosesydd (MPK) ar gael trwy'r gwasanaeth cyfredol; ac

·         yr amserlen ar gyfer adolygu manyleb bresennol y gwasanaeth, gan nodi ei bod yn ymddangos mai yn 2014 y cafodd ei diweddaru ddiwethaf, a'r rhyngweithio rhwng adolygiad llawn a'r broses flaenoriaethu flynyddol ar sail tystiolaeth a amlinellwyd gan y Gweinidog.

 

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am fanylion ynghylch pryd y bydd WHSSC yn cynnal adolygiad o ‘Fanyleb Gwasanaeth y Gwasanaethau Arbenigol: CP89 Gwasanaethau adsefydlu i’r rhai sydd wedi colli aelod a’r rhai sydd wedi cael aelod prosthetig', ac am esboniad pam mae'r sefyllfa ynghylch mynediad at brostheteg a reolir gan ficrobrosesydd yn wahanol yng Nghymru.