Cyfarfodydd
Unrhyw Fusnes Arall
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/02/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Eitem lafar
12.1 Nododd Ed y
byddai'r cyfweliadau ar gyfer rôl y Prif Swyddog Cyllid yn cael eu cynnal ar 27
Chwefror. Cadarnhaodd fod Simon wedi bod mor garedig â chadarnhau y byddai'n
parhau i fod ar gael i'r Comisiwn er mwyn sicrhau parhad yn ystod y broses o
archwilio'r cyfrifon, ac er mwyn sicrhau y byddai’r awenau’n cael eu
trosglwyddo i’r prif swyddog parhaol newydd mewn modd effeithiol.
12.2 Rhoddodd Ed
sicrwydd hefyd fod mesurau interim ar waith mewn perthynas ag ymadawiad y
Pennaeth Adnoddau Dynol, a oedd ar fin digwydd, ac y byddai ymgyrch recriwtio
ar waith maes o law.
Bu’r Pennaeth
Archwilio Mewnol yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi
i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion.
Disgwylir i'r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27 Ebrill 2023.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
17.1 Talodd y
Cadeirydd deyrnged i Catharine Bray, y Pennaeth Cyllid, sy’n ymddeol o Gomisiwn
y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Roedd yn awyddus i ddiolch iddi am ei chefnogaeth
bob amser a nododd fod ei gwybodaeth a'i harbenigedd technegol wedi’u
gwerthfawrogi'n fawr. Hefyd, ategodd ei ddiolch i Nia am ei chefnogaeth a'i
harweiniad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Disgwylir i'r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 13 Chwefror 2023.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Y wybodaeth ddiweddaraf am REWAC a Myfyrdodau gan Ann Beynon ar aelodaeth ARAC
Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem lafar
13.1 Diolchodd
Ann Beynon i'r Cadeirydd am neilltuo amser iddi rannu ei myfyrdodau. Roedd hi’n
ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda sefydliad sector cyhoeddus ac ychwanegodd
fod gwaith y Pwyllgor wedi bod yn hynod ddiddorol.
13.2 Llongyfarchodd
swyddogion ar safon broffesiynol y papurau y maent yn eu llunio, yn enwedig
mewn perthynas â chyllid, a soniodd am y dull ystyrlon o archwilio mewnol a
ddilynir.
13.3 Diolchodd
Ann hefyd i'r Cadeirydd am y trafodaethau rheolaidd a gafwyd y tu allan i'r
cyfarfodydd ffurfiol. Roedd y trafodaethau hyn wedi helpu i wella ei
dealltwriaeth o weithgarwch Comisiwn y Senedd. Argymhellodd y dylai gwaith y
Pwyllgor barhau i ddatblygu, a chyfeiriodd at gymhlethdod y pwyllgorau cynghori
a'r byrddau wrth i'r Senedd esblygu a'r angen iddynt gydweithio.
13.4 Er bod ei
chysylltiad â swyddogion wedi’i gyfyngu'n fwy diweddar oherwydd y pandemig,
nododd y diwylliant cwrtais, parchus, cadarnhaol a hyderus, yn ogystal â’r
amgylchedd cefnogol, yr oedd wedi dod ar ei draws. Anogodd uwch reolwyr i fod
yn ymwybodol o effaith pwysau allanol ar y diwylliant hwn ac i ystyried sut y
mae unigolion yn ymateb yn wahanol i bwysau o’r fath, gan awgrymu y gallai hyn
gael ei gynnwys mewn hyfforddiant i reolwyr. Soniodd hefyd am bwysigrwydd rhoi
adborth gonest i staff, mewn modd cwrtais, yn unol â’r gwerthoedd sefydliadol o
urddas a pharch.
13.5 Yn ei
sylwadau olaf, anogodd swyddogion i ofalu am eu hunain a'i gilydd.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Eitem lafar
12.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Trefnwyd y cyfarfod ffurfiol nesaf ar gyfer 21 Tachwedd
2022.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 20)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Eitem lafar
20.1 Ni chodwyd unrhyw
fater arall.
Bu’r Swyddog Cyfrifyddu yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r
Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion.
Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 15 Mehefin 2022.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
3.1 Cytunodd y Cadeirydd, oherwydd bod cyfyngiadau
Llywodraeth Cymru wedi dod i ben, mai hwn fyddai’r diweddariad corfforaethol
ffurfiol olaf ynghylch Covid-19.
3.1 Cadarnhaodd Ed y byddai’r Grŵp Cydnerthedd a Monitro Covid (CRAM) yn parhau
tan doriad yr haf ac ar ôl hynny byddai ei gylch gwaith yn cael ei ymgorffori
yn y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch, Lles a Diogelu. Roedd yr holl fesurau Covid-19
statudol wedi'u dileu, er bod gwisgo gorchuddion wyneb gan holl ddefnyddwyr yr
adeilad yn parhau i fod yn rhan o ganllawiau'r Comisiwn. Roedd achosion o
Covid-19 a adroddwyd ar yr ystâd wedi cael eu rheoli’n effeithiol ac roedd yr
effaith ar barhad busnes yn lleihau; roedd hyn yn dangos pa mor effeithiol oedd
y mesurau a'r prosesau mewnol a oedd ar waith.
3.2 Soniodd Ed am bresenoldeb a gweithgarwch sylweddol ar
y safle, yn enwedig ar ddiwrnodau busnes. Fe wnaeth y Tîm Arwain, y Bwrdd
Gweithredol a’r Comisiwn barhau i gwrdd yn rhithwir, ar ffurf hybrid ac wyneb
yn wyneb. Yn amlwg, roedd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwytnwch i’r
sefydliad, pe bai cyfyngiadau’n cael eu gosod yn y dyfodol.
3.3 Rhannodd Ed ragor o wybodaeth â'r Pwyllgor ynghylch
yr ail bapur ar 'ffyrdd o weithio' a oedd i'w drafod gan y Comisiwn ar 9 Mai.
Disgrifiodd y papur strwythur y gwasanaethau a'u dull o fynd i’r afael â ffyrdd
o weithio yn y dyfodol. Cytunodd Ed i rannu ymateb y Comisiwn i’r papur â’r
Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
3.4 Diolchodd y Pwyllgor i Ed am ei ddiweddariad a chan gydnabod
y byddai disgwyl i fwy o staff ddychwelyd i'r ystâd nawr bod y cyfyngiadau wedi
dod i ben, anogodd uwch-reolwyr i barhau i ystyried eu lles a'u llesiant.
Cam gweithredu
· Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor
am ymateb y Comisiwn i’r ail bapur ar ‘ffyrdd o weithio’.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Unrhyw Fusnes Arall
Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem lafar
16.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
16.2 Bu Gareth Lucey yn bresennol mewn sesiwn breifat
gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd
cofnodion.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 29 Ebrill
2022.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 22)
Unrhyw Fusnes Arall
Oral item
Cofnodion:
Eitem lafar
22.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Bu Gareth Watts yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi
i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 14 Chwefror 2022.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Unrhyw fater arall
Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem lafar
12.1
Ni chodwyd unrhyw
fater arall.
Bu Manon Antoniazzi yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau o’r Pwyllgor
wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y
sesiwn hon.
Mae'r cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 9 Gorffennaf 2021.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Adborth ar y drafodaeth yng nghyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu
Cofnodion:
Diweddariad
llafar
18.1
Croesawodd Ann Beynon, fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori, y
cyfle hwn i roi adborth ar ddau gyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwnnw, yr oedd y
diweddaraf ohonynt wedi canolbwyntio’n bennaf ar drafodaethau ar daliadau i
uwch reolwyr.
18.2
Yn y cyfarfod ym mis Mawrth, trafododd y Pwyllgor
Cynghori y materion a ganlyn:
-
cwmpas adolygiad o effeithiolrwydd y Pwyllgor Cynghori ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu gan Gareth Watts, y byddai ei ganlyniadau’n
cael eu rhannu â’r Pwyllgor hwn;
-
trefniadau i gynnal cyfarfod yn ystod yr haf i gynllunio
senarios;
-
sut i gefnogi’r adolygiad o bolisi urddas a pharch y
Comisiwn yn ystod yr hydref;
-
canlyniad yr adolygiad ‘pwls’ llesiant diweddaraf, gan
nodi bod bellach modd meincnodi yn erbyn sgoriau cyrff cyhoeddus eraill a bod y
sgôr gyffredinol ar gyfer bodlonrwydd yn ffafriol o’i chymharu â sefydliadau
eraill;
-
ffyrdd o ymdrin ag anghydraddoldeb
economaidd-gymdeithasol a chynyddu cynrychiolaeth gan bobl dduon, Asiaidd a
lleiafrifoedd ethnig ymhlith staff y Comisiwn, gan gynnwys y posibilrwydd o
wneud ymarfer meincnodi yn erbyn sefydliadau eraill, y byddai’n rhaid iddo
ystyried y lefelau cymharol isaf o drosiant ymhlith y staff; a
-
strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu y Comisiwn.
18.3
Roedd Ann a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori yn ddiweddar
wedi bod yn rhan o’r broses i recriwtio ar gyfer dwy swydd uwch o fewn y
Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu. Roeddent wedi’u siomi ar yr ochr orau gan safon y
ceisiadau, gan arwain iddynt fod yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o’r broses.
18.4
Diolchodd y Cadeirydd i Ann am yr adborth hwn a nododd y
cynnydd da sydd wedi’i wneud ar raglen waith y Pwyllgor Cynghori.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Trafod y ffyrdd y gellir defnyddio'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon i hyrwyddo gwaith y Senedd drwy gydol y flwyddyn.
Cofnodion:
15.1 Byddai’r
eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Adborth ar Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Cofnodion:
14.1 Yn anffodus, oherwydd y pandemig,
cadarnhaodd y Cadeirydd na chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau fforwm y
Cadeiryddion i adrodd arnynt.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Adborth ar drafodaethau ym Mhwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) y Comisiwn
Cofnodion:
13.1 Fel aelod o Bwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a Gweithlu (REWAC) y Comisiwn, fe groesawodd Ann Beynon y cyfle hwn
i roi adborth ar y cyfarfod diwethaf, a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2020. Dywedodd fod cyfradd yr ymatebion i’r arolwg
Pulse, a gynhaliwyd ym mis Hydref wedi cynyddu, ond mai nifer isel iawn o
Aelodau o’r Senedd a ymatebodd i’r arolwg Urddas a Pharch.
13.2 Roedd REWAC wedi trafod ffyrdd o wella
cyfathrebu dyddiol a’r ffaith y byddai dechrau tymor Senedd newydd yn gyfle
gwych i hyrwyddo polisïau ac adnewyddu hyfforddiant a chanllawiau. Cyfeiriodd
Ann at adroddiad ar newyddiaduraeth yng Nghymru a thrafodaethau yn REWAC a
ganolbwyntiodd ar sut y gallai negeseuon o'r Senedd ac am y Senedd gael eu
lledaenu'n ehangach, a hynny wrth gynnal y ffin rhyngom ni a Llywodraeth Cymru.
13.3 Diweddarodd Arwyn yr aelodau ar y papur a
oedd yn cael ei baratoi ar gyfer Comisiynwyr ar gynnal newyddiaduraeth yng
Nghymru, gan adeiladu ar waith y Tasglu Digidol y cyhoeddwyd ei adroddiad yn
2017.
13.4 Diolchodd y Cadeirydd i Ann am yr adborth
hwn a nododd byddai'n croesawu adborth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Sesiwn breifat
Cofnodion:
17.1
Bu Gareth Watts yn bresennol mewn sesiwn breifat
gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd
cofnodion yn ystod y sesiwn hon.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar
12 Chwefror 2021.
Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
4.1
Bydd
y Cadeirydd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol ARAC i’r Comisiwn ddydd Llun 13
Gorffennaf a chafwyd trafodaeth am ba negeseuon allweddol i’w cyfleu. Byddai’n
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn nhymor yr hydref.
4.2
Hefyd,
cytunodd y Cadeirydd i drafod ymhellach trefnu cyfarfod anffurfiol yn gynnar yn
nhymor yr hydref ac y byddai’n anfon y manylion at aelodau’r Pwyllgor.
Camau i’w
cymryd
·
(5.2) Bydd y Cadeirydd yn anfon manylion am
gyfarfod anffurfiol at aelodau’r Pwyllgor.
Disgwylir i'r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 20 Tachwedd 2020.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
11.1 Gofynnodd Ann i swyddogion am y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynigion ynghylch mynychu cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol yn y
dyfodol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd. Nododd swyddogion
fod dyddiad yn cael ei drefnu, er mwyn i'r sesiwn gael ei chynnal rywbryd ym
mis Gorffennaf.
Mae'r
cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 10 Gorffennaf 2020.