Cyfarfodydd

P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â'u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngiadau ar farbwyr a salonau trin gwallt wedi cael eu codi ar 13 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater.

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yng ngoleuni canlyniad adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o’r cyfyngiadau Covid-19 ar 9 Gorffennaf, a sylwadau pellach gan y deisebydd.