Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

NDM7330 Julie James (Gorllewin Abertawe):

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2019-21 (Saesneg yn unig)

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

NDM7330 Julie James (Gorllewin Abertawe): 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm at bwyllgor i graffu arno, o ystyried pa mor gyflym y mae disgwyl i'r Bil symud trwy ei gamau craffu yn Senedd y DU a bod y ddadl wedi'i hamserlennu ar gyfer y dydd Mercher hwn.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y ddadl wedi'i threfnu am 30 munud yn hytrach na'r 15 munud arferol er mwyn ystyried diffyg craffu gan bwyllgor yn yr achos hwn.

 

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

CLA(5)-17-20 – Papur 15 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol, ac y byddai’n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mehefin 2020.