Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch-Tân 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

NDM7407 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Tân (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.31

NDM7407 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Diogelwch Tân (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch Tân - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-17-20 – Papur 18 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor a derbyniwyd yr adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Diogelwch Tân, yn ddarostyngedig i un mân ddiwygiad. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 18 Mehefin 2020.

 


Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

CLA(5)-16-20 – Papur 14 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-16-20 – Papur 15 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol a phapur briffio cefndirol

CLA(5)-16-20 – Papur 16 - Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a bydd yn trafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.