Cyfarfodydd

P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/09/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-966 Stopiwch yr Isafbris am Alcohol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan nodi mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd yr Isafbris Uned ar gyfer alcohol a bod astudiaethau i'w ganlyniadau a'i effeithiolrwydd yn cael eu cynnal, cytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn:

·         nodi’r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb a’r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         rhannu’r ddeiseb â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w thrafod yn ystod eu gwaith craffu ar ôl deddfu; a

·         chau'r ddeiseb yn sgîl y ffaith nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud ar hyn o bryd.