Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid

NDM7336 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Y Bill Cyllid 2019-21 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

NDM7336 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan y Senedd y DU

Finance Bill 2019-21(Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid 2020

Papur 4 – Papur cyfreithiol: Y Bil Cyllid

Papur 5 – Datganiad ysgrifenedig gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Ymateb y Llywodraeth - dyfodol prisiau carbon yn y DU

Papur 6 – Adroddiad drafft

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Cyllid

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd ar yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid - trafod yr adroddiad drafft.

CLA(5)-18-20 – Papur 17 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ac fe’i derbyniwyd.  


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid

CLA(5)-17-20 – Papur 21 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cyllid a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Cyllid i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cyflwyno adroddiad ddydd Iau 2 Gorffennaf.